Fy mhenwythnos cynta'n ol...
Dwi o'r diwedd wedi sylweddoli sut i ddefnydio 'mlog...mae o yma ar gyfer neud fyny am y diffyg bywyd sydd yma ar fore dydd sul!
Nos wener, ionawr y trydydd ar ddeg.
Doedd gan neb ryw lawar o awydd i fynd allan, felly dyma ni'n penderfynu gneud petha digon rhyfadd yn coridor ein fflat. Mi odd hyn yn cynnwys neud hand-stands yn erbyn ein gilydd, gweld sawl person a fysa ni'n gallu ei ffitio rhwng walia'r coridor wrth neud hand-stands...ac wrth orwedd, a mi naetho ni human-pyramid! Dyma gynyrch y noson hono...
Pump ohona ni rhwng walia'r coridor!
Failed attempt o hand-stands yn erbyn ein gilydd!
Dwim yn siwr be sy'n mynd ymlaen yn fama?!
Dydd sadwrn, ionawr y pedwerydd ar ddeg.
Y creadur dwl ydw i, mi godais i am ddeg y bora ma! Dyma'r tro cynta i fi weld bora dydd sadwrn yn y coleg! Mynd i weld gem y gleision oedd ein hanes amser cinio...am gem wael. Doedd o ddim werth y €10 yr o'n i ddigon gwirion i dalu. Gweld Delyth med (aka Sili, fel ma hi yn fy ffon i!), a mi odd hi'n gaddo noson dda yn clwb, felly yno odd rhaid mynd yn hwyrach!
Nos sadwrn cynta nol yng nghaerdydd, i clwb ifor y bu'n rhaid mynd! Ar y ffordd mi benderfyno ni fynd i dafarna gwahanol i'r rheini y byddw ni fel arfer yn mynd iddy nw ar nos sadwrn, felly yn pen&wig, park vaults, a dempsey's y cawso ni'n stops neithiwr.
Mi odd y noson yn mynd yn iawn tan i ni gyrraedd dempsey's! Yn dempsey's, mi odd na wyddel canol oed odd yn edrych fel Bono, ond ar ol deud wrtha ni sawl gwaith mai nid Bono oedd o (er natho ni ddim gofyn) mi sylweddolo ni nad Bono oedd o! Er hyn, dim dyma ddiwedd hanes y gwyddel!! Mi aeth y gwyddel ymlaen i roi ei hanes, ac yno y buo ni, am bron i awr, efo'r gwyddel 'ma yn siarad a neb arall methu cal gair i mewn, yr unig ffordd oddi yno oedd mynd i'r lle chwech, felly dyna nes i! Ar fy ffordd i'r toiled, mi ddois i ar draws ffrancwyr, o perpignan i fod yn fanwl gywir, wedi dod i gefnogi'r rygbi. Gan fod perpignan wedi ennill yn haeddianol, mi nes i bwynt o neud sgwrs a rhai ohony nw. Mi odd y ffrancwyr mewn hwylia ac yn canu, felly ymuno oedd rhaid a canu'r gan anfarwol "Yfwn i ddwsin o boteli cyn bo'r nos wedi dod i ben..." sydd hefyd yn gan ffrengig. I fy siomedigaeth i, mi odda nw'n cyfri eu hunan yn fwy o fasgwyr nag o ffrancwyr, felly mi ganais i weddill y gan er-mwyn pleser fy hun, yn y bog!
Yn y diwedd mi adawo ni 'Bono' yn dempsey's a mynd rownd y gongl i Clwb Ifor Bach.
Ar ol gweithgaredda nos wener, mi ddywedo ni y bydda ni yn neud human-pyramid ar y llawr dawnsio, ond ddigwyddodd o ddim, yn lle hynny, mi gawso ni'r gweithgaredda arferol o yfed, dawnsio, a mwydro!!
Yn wir, mi oedd Delyth yno, ac hefyd Ifan Rasputin oedd wedi yn smocio paced o sigarets, er nad ydi o'n smygu fel arfer! "Mi ges i'r ysfa am fwg 'achan!" oedd ei eiria fo!
Doedd hi ddim fel y nos sadwrn arferol, er ei bod hi'n braf bod yn ol!Yn anffodus doedd dim tnnyu dillad i fod heno. Pan ddaeth Delyth a Ian Cottrell draw, bu bron i ni gael moment noeth, ond doedd Ian ddim yn fodlon mynd yr holl ffordd, i ddeud y gwir, aeth ond mor bell a agor botyma ei grys!!
Yn hwyrach yn y noson mi odd un o'r criw o senghennydd, gareth, mewn tipyn o stad ar y sofa'r llawr gwaelod. Dwi'n meddwl mae effaith alcohol oedd arno fo!! Yn anffodus, pan aeth pawb i fyny i'r llawr canol, mi oedd Gareth dal ar y sofa, ond erbyn i ni ddod nol lawr ar gyfer gadael, mi odd Gareth di mynd. Does neb yn gwbo lle mae Gareth. Mi aetho ni i'w fflat o i weld os oedd o di cyrraedd 'nol, ond ofer fu'n chwilio. Yr unig beth sydd gyna i i'w ddeud ydi...
...Gareth os ti allan yn fanna, ac yn darllan hwn, plis cysyllta efo rywun. Ma pawb yn poeni amdana chdi.
Dydd Sul, ionawr y pymthegfed.
Wehei! Ma 'nghneither newydd ddod a dau focs o ddillad glan i fi. Gan fod fi'n mynd lawr ar y tren, doeddwn i methu cario'r bocsys yma, felly mi aeth hi a nw lawr wrth ddod yn ol ar ol dolig. Trons glan i Huw!


2 Sylwad:
;O) yn wir!!
Blydi hel, be di rhain, llunaiu o garcharorion Iracaidd yn cael eu cam-drin gan lluoedd Americanaidd?
Disturbing dros ben!
Ychwanegu sylw
<< Adref