Roll on gwylia'r haf!!
Aaa!! Penderfyniadau wedi'i gneud...be dwi am neud yr haf yma?! Ma hi'n wirion bost gorfod meddwl am hyn rwan, ond trefniada ar y gweill yn barod!!
Y rheswm ma'n rhaid i fi benderfynu ar fy haf mor gynnar, ydi gan fy mod wedi cael cynnig i fynd i Wlad Pwyl i ddawnsio efo Dawnswyr Mon. Wehei, medda fi, ond, fel pob tro mae na wastad 'ond'! Yr ond hwnnw oedd, cerddorfa genedlaethol ieuenctid cymru.
Y cellos yn mwynhau!!

Y cellos yn mwynhau chydig mwy!! (Pan oeddwn ond yn llencyn!!)

Dwi wedi bod ar yn y gerddorfa ddwy flynedd yn olynol, ac y llynedd, mi oedd y cwrs yn anhygoel (a i ddim i ymheleuthu)! Ma na ambell i aelod o'r gerddorfa oeddwn i'n ffrindia a nw rhy hen 'leni hefyd, felly fydd o byth 'run fath! Mi gefais amser mor dda fel na wela i cwrs 'leni yn ei guro fo, er fod hi'n ben-blwydd 60 y gerddorfa, ac er fod na bosibilrwydd o daith dramor! Tra'n ysgrifennu yn fama, dwi newydd gal cadarnhad fy mod wedi fy nerbyn i'r gerddorfa am fy nhrydedd blwyddyn yn olynol, a dwi ar fin gwrthod y cynnig. Beth sy'n waeth ydi bod fy chwaer fach wedi ei derbyn hefyd, am y tro cyntaf, ond ma hi hefyd yn mynd i Pwyl. Dwim yn siwr os ydi nghalon i'n gwaedu drosdi hi neu drosda fi fwya. [Dwi'n cymyd time-out i grio! Dagrau! Bw-hwwww!!]
Digon ar edrych yn ol ar atgofion a fu!! Dyma fydd 'ha 'leni...
Dyma un o'r llwyfana awyr agored i ni ddawsnio arny nw. Mi oedd rhai miloedd ymhob noson yn ddi-ffael.
Pwy sy'n chwysu!?!
Da ni'n hedfan!!
Pwy sy'n neud yr hoci-coci?! "Put your right leg in, right leg out, in out, in out shake it all about!!"
Peidier a gofyn!!
"We are the champions my friends..."
Da ngwas i! Yr hen Sion (Teg) yn fama!!

Be am fwrw tin dros ben?! 
Dyna rai o ddigwyddiada y tro dwytha i ni fod yn Pwyl. Gyda'r nos mi oedd sawl digwyddiad cymdeithasol arall, felly, dwi'n meddwl fod Pwyl a Sdeddfod yn fargen dda am Gerddorfa! Hon fydd y sdeddfod gynta i fi ei chael ar maes-b, ma'r gerddorfa wedi bnod ar draws pob blwyddyn arall. Mi o' n i'n gwbo ei fod y gwahoddiad am ddod ers tro, ond rwan dwi'n erdych ymlaen. Ma'r dyddiad ar y blog 'ma ar Bwyleg yn barod!!
Yr haf dyma fi'n dod!!
Am fwy o lunia o ddawnsio gosgeiddig Dawnswyr Mon cliciwch yma i fynd i safle swyddogol yr wyl, neu yma i fynd i blog Sion (Tegwared ap Seion)
Dal heb benderfynu...Pwyl neu Gerddorfa!!


1 Sylwad:
Blogiad (gair ych) gwych! Dwi'n falch iawn dy fod am ddod i Wlad Pwyl (i fano ti yn dod ia?). A be am Mari?? Mae'n rhaid i mi gyfadde 'mod i wedi blogio (ych) am y run peth wedi i mi ecseitio gymaint o ddarllen hwn! Sori!
Felly hwyliwch draw i www.mynyddllwydiarth.blogspot.com!!
Ychwanegu sylw
<< Adref