Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd - Sir Gar
Dim post ers tro - dwi'n ara' golli'r awydd i flogio! Bywyd go-iawn yn bwysicach na bywyd y we!
Fideo sydyn o fy nghwymp yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gar...Huw Morgan Jones yn syrthio wrth ddawnsio gwerin:
Mae'n rhaid i mi gyfaddef i mi neud yn reit dda i gael llwyfan ac yna i ddod yn ail (gweler berfformiad di ddisgyn yma!)...biti mae nghefnder a nghurodd!!
Etholiad 2007...#4
Dwi'n gwbo bod v newydd ddeud bod vn mynd i gwely - ond ma Rhodri Morgan newydd ennill ei sedd. Mi bopiodd ei lygaid allan o'i ben o, doniol!
Dyma ganlyniad Ynys Mon yn llawn...
Plaid Cymru - Ieuan Wyn Jones: 10,653
Annibynnol - Peter Rogers: 6,261
Llafur: 4,681
Ceidwadwyr: 3,480
Ai ddim i aros ar fy nhraed tan ganlyniadau rhanbarthol - ond ai i freuddwydio am Wigley yn y cynulliad!X
Etholiad 2007...#3
Wehei! Ieuan Wyn Jones wedi ennill Ynys Mon...phew!!
Mi a af i swatio yn fy ngwely yn dawel i gysgu fel mochyn, er-mwyn codi am 7:30 bore fory i fynd ar placement.
Dwi dal yn gobeithio y bydd Dafydd Wigley mewn.
Nos da.X
Etholiad 2007...#2
Canlyniad cynta - Llafur wedi ennill Islwyn. Ooo, y tensiwn. Go dratia!
A nath hi ddim diolch i'r ymgeisydd Plaid Cymru?? Am sych - ma hyn yn dangos nad ydi'r ymgeisydd gora wastad yn ennill, ymgeisydd "useless" yn wir!!X
Etholiad 2007...#1
Dau sylw ar y rhaglen:
1. Ma'r cloc yn edrych yn gredadwy iawn, mae'r bys eiliad yn ticio mlaen yna'n bownsio'n ol...un o'r clociau analog/digidol gorau dwi erioed wedi ei weld!
2. Talcen Vaughan Roderick...say no more!!
3. Grrr! Ma'r diffyg sain / clwad yn warth!
4. John Davies - Grrr arall! Boi o ty v wedi pledleisio amdano fo am fod o wedi gweld gormod o bosteri Elin Davies (Plaid Cymru) yn ei etholaeth (Ceredigion). Materol!!X
Etholiad 2007...
Helo, heb fod yma ers oes ond nodyn byr i ddangos fy nghyffro tuag at ganlyniadau'r etholiad!
3 gobaith sydd gen i at yr etholiad - i) bod Plaid Cymru yn ennill Ynys Mon, ii) bod Dafydd Wigley yn cael i mewn, iii) nad ydi Llafur yn ennill dros 30 sedd - h.y. bydd raid iddy nw ffurfio cymblaid, neu yn well bod Plaid Cymru yn ennill mwyafrif!
Na i gadw nheimlada i' n dod mewn drwy'r nos.X
My Pursuit of happiness...
Ar b'nawn Sul heulog yng nghanol mis Ionwar, a'r ddau yn ddioddef ychydig ers y noson flaenorol, penderfynnodd Carwyn a Huw fynd i wylio gem y Gweilch vs Stade Francais. Gan fod y gem ar sky (melltith!), rhaid oedd iddynt fynd i'r dafarn leol, y Mackintosh, i wylio'r gem. A hithau'n chwarter wedi tri, a'r gem yn dechrau am dri, brysiodd y ddau am sgrin fawr...
Och a gwae! Doedd y gem ddim ymlaen yn y pyb- y pel-droed oedd ymlaen, Everton a Reading! Mi ofynno ni am y gem ond doedda nw ddim yn newid y sianel! Aaa! Yn lle digaloni mi aetho ni i chwilio am dafarna' eraill am y gem. Os yda chi'n nabod Caerdydd ma'r Maci yn nghanol Cathays, aetho ni i gyfeiriad Gogleddol am dafarn gyfagos y Flora - pel-droed oedd yn fano 'fyd wedyn yn bellach i fyny am yr Heath - pel-droed unwaith eto!
Ar ol digaloni'n llwyr, aetho ni mewn i dre i wylio'r gem yn Dempseys gan roi'r byd yn ei le ar y ffordd yno. Hapusrwydd gawso ni o weld pel hirgron ar y sgrin efo dau dim, un mewn du a'r llall mewn pinc yn chwarae! Wohow!! Mi wylio ni weddill y gem yn sipian coc yn fano...wel, hannar awr ola'r gem- gan i ni gerddad am bron i awr. Gyted...22 yr un odd y sgor derfynol! :o(
Pan gyrhaeddo ni 'nol adra mi oedd Mogs a Ifan (housemates erilll) yn ol wrth eu gwaith ar ol gweld hannar awr ola' gem y Gweilch a Stade yn y Mackintosh! Aaaa(eto)!! Mi 'roedd criw mewn crysa'r gweilch wedi mynd i'r pyb ac o achos hynny roedd y rygbi 'mlaen.
Ma na
O.N. petai rywun yn gallu deud wrtha i am rwla lle y galla i wylio gem o rygbi ar sky yn cathays mi fyddwn i'n ddiolchgar.
O.O.N. BLWYDDYN NEWYDD DDA!
Gweler: Y Gweilch, Gweilch y Pysgod, Y Gweilch vs Stade Francais, Pel-droed, sky.
Yr Wyl Gerdd Dant a Top Cat...
Do'n i ddim yn yr Wyl Gerdd Dant (gwaetha'r modd) ond 'roedd f'annwyl fam! Mi oedd hi'n dawnsio 'Neuadd Middleton' efo Dawnswyr Mon yng nghystadleuaeth Parti Dawnsio Gwerin dros 16 oed...yndi ma Mam dros 16!
Er diddordeb - ar dir Middleton Hall mae Gardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru ac mae'r ddawns yn adlewyrchu'r hyn efo thema blodeuog, i'r rheini welodd y Dawnswyr Mon yn dawnsio dwi'n siwr y bydda chi'n cytuno a hyn!
Wrth gwrs, cyntaf oedd Dawnswyr Mon mi guro nhw Dawnswyr Pantycelyn a Cwmni Dawns Werin Caerdydd. Mi fydd yr arian yn blodeuo ;o) rywfaint ar y cyfri banc a'r darian yn llenwi'r cwpwrdd tlysau ymhellach!! Dyma lun o fy Mam (ar y dde!) efo Anti Mair (y bos!) yn dal y dlws fuddugol a Medwyn (yn y canol) wedi iddy nhw dderbyn eu gwobrau...
Ma hi reit ddoniol bod fi wedi helpu Dawnswyr Caerdydd yn un ymarfer drwy ddawnsio gan nad oedd un o'u dynion nhw gallu bod yno'n marfer. Ar y pryd do'n i ddim yn gwbo fod Dawnswyr Mon yn cystadlu!Doniol oedd hi hefyd i weld yr Wyl Gerdd Dant ar y teledu pan oedda ni allan yn cael peint neu ddau nos Sadwrn, i ddechra yn Park Vaults (bosibl un o dafarnau mwya dinji Caerdydd!) lle welso ni Mam Carwyn, a Gwawr (fy nghyfneither) ar y teledu efo parti llefaru buddugol Parti Marchan!
Erbyn i ni gyrraedd Dempsey's (pyb Gwyddelig) mi oedd Dad wedi ffonio i ddeud fod Dawnswyr Mon wedi ennill, mi o'n i wedi trio cysylltu efo Mam ond mi oedd ei ffon hi wedi diffodd...fel arfar! 'Roedd yr Wyl Gerdd Dant ar y teledu hefyd yno, ac mi o'n i'n meddwl y bydda ni wedi gadal cyn cystadleuaeth y dawnsio, ond nid fel yna yr oedd! Mi ddaeth y gystadleuaeth ar y sgrin a dangos y parti ddaeth yn drydydd, ag yna yr ail fel oedd Dawnswyr Mon ar fin dod ar y sgrin a newidio nhw'r sianel. Grrr!! Mi o'n i'n flin...mi o'n i ddau eiliad oddi wrth weld fy mam ar y teledu yn ennill! Aaaaaa!!
Dyna sut mae mynd o'r Wyl Gerdd Dant i Top Cat a un Huw blin iawn, iawn, iawn
iawn
iawn!
Tamaid i aros...
...dwi bellach yn ol yn coleg ar ol teithiau yr ha'. Dyma lunia o Dawnswyr Mon yn perfformio ar daith yn Gwlad Pwyl. Ma na lunia o'r timoedd eraill o'r wyl yma hefyd!
Mi odd o'n le anhygoel!! Cynulleidfaoedd gwych, llwyfana anferthol, dwsina o dimoedd tramor eraill, ac wrth...gwrs cwrw rhad (peint yn llai na £1!). Mi ddaeth Dawnswyr Mon a gwobr yn ol efo nhw (a dorrodd yn yr awyren!) am eu perfformiad ardderchog...a diddorol!
Os na da chi awydd mynd i'r wefan i weld y llunia dyma amball un i'ch diddanu
Bwrlwm y Cadi Ha'!

Yr aelodau hyn!

Fi!

Y ffarmwr a'r ceffyl
Y trawswisgwr

Y wobr!
Yr olaf...am rwan!
Ma'r wawr yn torri yma yn Senghennydd a does na ddim ar ol i'w ddeud ond hwyl fawr...ma pennod arall drosodd. Ma'r haf yn argoeli i fod yn un da efo teithia i Wyl Ifan, Sesiwn Fawr, Gwlad Pwyl, Sdeddfod, Ciwba ac yna yn ol i coleg...dwi'n gobeithio y geith pawb arall amsar cystal a dwi'n fwriadu ei gal!
Dwi'n ymddiheuro am y distawrwydd a fu ar y blog ac o flaen llaw am y distawrwydd sydd am fod ar y blog ond mae bywyd yn galw!X
