Tri o gloch y bora...eto!
3:13 Dwim yn gwbo be dwi'n neud yn sgwennu hyn am 3:13 ond mi nath Biggs ddod lawr s0 rwan dwi'n cyrradd yn ol o creation! Ma'r 5 dwrnod dwytha di bod yn insania! Mi odd pen-blwydd Ffion nos Iau, odd yn sesiwn efo Carwyn a fi yn neud strip-tease ar ddiwedd y noson...am hwyl!
Nos wener mi gawso ni centurion, 100 shot o lager mewn 100 munud, efo carwyn, aled, a fi wedi ein gwisgo fel babis!! Wedi 40 shot, mi odd gareth yn chwydu, ac ar ol 80 shot, mi odd carwyn mewn hwylia da! Mi aetho ni allan i barfly wedyn yn ein gwisgoedd babis. Mi odd radio lux yn wych, ond mi lwyddais i golli fy waled! :o( Os oes na rywun wedi'i gweld hi, plis new chi ei dychwelyd hi! Gwely 4:04 noson yma!Dydd sadwrn codi am 8:50! Idiot! Mi o'n i'n mynd i Leeds i gwrdd a ffrindia ysgol, tom a meu! Mi o'n i'n cyrradd am 15:00 ar ol siwrna tren ar ol siwrna 5 awr, am 16:30 mi odda ni'n tri allan ar pyb crol, ia, dim ond y tri ohona ni!! Mynd yn ol i lle meu am (tua)21:30, mi odd tom wedi troi ei droed yn ddrwg! Canu cwm rhondda, calon lan, a'r anthem genedlaethol...ffrindia meurig yn teimlo'n annifyr...saeson odda nw!! Hehe!! Nol allan wedyn am (tua)22:05 i'r clwb evolution! Clwb mawr, huw ar goll...methu ffendio neb...treulio hannar y noson wrth y bar neu yn chwilio am bobl, erbyn iddo fo eu ffendio nw, amsar mynd!! Nol yn lle meu am (tua)3:13, ond yn lle cysgu, mynd i stafall sara mai, ffrind arall o adra. Hi'n lliwio fy ngwynab efo highliter oren tra o'n i'n cysgu! Ar balconi preswylfeydd meurig am (tua)3:45, meurig yn stripio, fi'n cadw fy nillad ymlaen...rhy oer! Y warden yn ei ddal o, ei ffrindia, a fi, ac am ei weld o y noson ganlynol am gadw swn!! Meurig yn colli ei focsar, pawb yn noshwylio!
Dydd sul. Dwrnod diflas, trio adolygu ar ffordd adra, dim llawar yn mynd fewn!! Cal cwmni jason, yr hogyn o rachub, o leominster ymlaen, y siwrna yn mynd yn llawar cynr wrth i ni'n dau rio'r byd yn ei le! Cyrradd nol adra 18:15, chydig o waith...cysgu! Dydi gwely 4 noson yn olynol ddim yn cyd-fynd a fi!!
Arholiad bora dydd llun yn mynd yn rhyfeddol o dda! Pasio deugian munud! Mi es i i weddill darlithoedd y dydd, gneud gwaith cwrs maths sydd fod fewn dydd mercher ac yna mynd allan! Bywyd stiwdatn i chi! Rwan dwi'n cyrradd nol o'r noson allan bondigrybwyll honno! Lwcus nad oes gen i dissection fory...dwrnod llawn arall i fi, dechra am 9:00, a mi fydda i yno! Ma na lot mwy i ddeud ond ma hwna'n ddigon am rwna!
Nos da!XXXXXXXXXXXXXXXXXX (3:46 am...dwi'n idiot!)


2 Sylwad:
Cynt?! Bu imi oedi ugain mlynedd ar y ffordd o Amwythig!
(ho ho joc fach)
Sori am y typos...ella na i olygu nw wedyn os fydd gyna i fynadd!!
Ychwanegu sylw
<< Adref