Diwedd Dai Secshyn...
Do, mae hi wedi dod yn amser i roi'r scalpels i lawr, bydd dissection ddim mwy...wel ddim tan fis Medi beth bynnag!
Ar ail wsos o coleg rhoddwyd ni mewn grwpiau o 12eg i rannu corff rhyngddom. Doedd gen i syniad o beth i ddisgwl wrth gerdded i'r stafell y tro cynta; yno oedd 26 o fyrddau efo corff marw ar bob un. Er hynny mi oedd gyna i fwy o syniad na rywun arall ar fy mwrdd dissectio, yr hyn ddudodd o oedd, "Is this like a real body like man, like a real dead person man?" Yn ofalus iawn dyma fi'n egluro (yn fy saesneg gora) mae person marw oedd wedi rhoi eu corff at ddysgu meddygaeth oeddent. Cymrodd y creadur gam sydyn iawn oddi wrth y bwrdd! Ni welwyd llawar ohono fo yn ystod gweddill y tymor am ryw reswm!!

Mi gafodd ein corff/cadaver ni enw reit anffodus. Beti enwyd hi, efo Big o'i flaen...Big Beti, hynny am y rheswm fod trwch o saim/fat i'w gael rhwng y croen ac unrhyw strwythyr o sylwedd felly tyrchu oedd rhaid sawl gwaith i ffindio yr hyn odda ni yn chwilio amdano fo! Heddwch i'w llwch. (NID traed Beti mo'r rhain!)

Mi oedd y sesiyna dissectio hyn (dwywaith yr wythnos dydd llun a dydd iau) yn gyfla gwych i ddo i nabod pobl, ac i sgwrsio a pobl da chi'n nabod yn barod. Y pwnc llosg gan amlaf fydda Clwb Ifor, hynny am y rheswm fod ni wedi bod yno nos sadwrn, neu'n bwriadu mynd yno nos sadwrn!! Mae'n ffordd hawdd o ddod i nabod meddygon eraill, ac hefyd i ymarfer yr iaith fain. Dyma un o'r unig adegau oeddwn i yn ei gael i siarad saesneg, dwi ond yn gobeithio rwan neith fy saesneg ddim dirywio gormod!!
Mae'n bwrdd dissection ni yn mynd allan am swpar nos iau (mi fydd na up date ar hwna ma siwr!!). Mi fuo ni unwaith o'r blaen, gan fynd i'r Philly ar ol y pryd. Dwi'n gweld rwbath tebyg yn digwydd y tro hwn hefyd! Dwi ond yn gobeithio y bydd hi'n noson mor lliwgar a oedd yr un ddwytha!
Yr unig beth ar ol i neud efo anatomi y flwyddyn yma ydi'r arholiad. Aaa!! Mae o ar 24ain o Ebrill, ddwrnod cyn fy mhen-blwydd, dwi'n edrych ymlaen yn barod!!

2 Sylwad:
lol
Dwi wastad wedi ffeindio rwbath yn morbidly diddorol am dissectio. O'n i wrth y modd efo torri calonna moch (ha!) a llygid gwartheg yn ysgol.
Sa'n ddifyr clywad mwy o dy hanes meddygol. Da chi wedi gorfod dissectio pen eto? Fasa hwnna chydig yn sgeri de. Sôn am dissectio sgeri - ti di gweld yr horror ffilm Anatomie - gwerth ei ffeindio wir i ti.
Ychwanegu sylw
<< Adref