Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Dim Clwb Ifor...

Yn wir, neithiwr oedd y noson gyntaf (ella'r ail) i fi beidio a mynd i clwb ifor ar nos sadwrn! Yn lle hynny mi aeth criw ohona ni i weld y ffilm Jarhead. Ffilm dda, nes i chi gyrraedd hanner ffordd drwyddi a sylweddoli nad oes stori! Er hynny, mi oeddwn i'n teimlo iddi bortreadu rhyfel yn dda iawn...er nad oedd dim ymladd uniongyrchol ynddi! Dim trais mewn ffilm ryfel?! Ia, dim trais!! Un peth oedd yn eitha amlwg oedd ei bod yn ffilm gwrth ryfel, a teimlodd sawl un ohonom mae dyma oedd y cynhyrchydd yn drio gael ato yn ystod y ffilm.
Wedi'r ffilm mi aetho ni am chydig o ddiodydd tawel, cyn i rai ymhel tua'r clwb a'r gweddill ohonom tua'n gwelyau!!

Yn ogystal a mynd allan nos sadwrn mi fum i allan nos wener. I Barfly yr es i gan fod Dewi, ffrind ysgol i mi, wedi dod i lawr i weld Heights (Gogs cynt), yno hefyd oedd Sibrydion. I fy syndod i mi oedd hi reit llawn yno, a'r gig yn un da, er ei fod ychydig yn ddrud am €6. Yno mi ddois i ar draws sawl un annisgwyl, y rhan fwya ohonynt ar fy nghwrs! Yn eu plith oedd Ifan Rasputin a Delyth aka Sili. Dywedais wrth y ddau y byswn yn ymhel i clwb ifor y noson ganlynol, ond ymddiheuriadau o waelod calon i'r ddau ohonoch, a phob hwyl efo'r arholiad ethics sydd ganddo ni fory!

Bydd criw go dda yn mynd i dy potas Barfly unwaith eto nos wener nesa, Ionawr 27, hynny i weld Radio Luxembourg, am fwy o wybodaeth cliciwch yma, neu am flyer sy'n golygu y byddwch yn cael mewn am bunt yn rhatach, ond sydd hefyd yn golygu y bydd Radio Luxembourg bunt yn gyfoethocach cliciwch yma!


Henffych, arholiad ethics fory, felly adolygu am weddill y dydd, wel am rywfaint o weddill y dydd!!

2 Sylwad:

dywedodd Blogger Hogyn o Rachub...

Peidied ef ag adolygu. Dioged am dair mlynedd ac apleio am TT.

3:33 PM  
dywedodd Blogger Huw Psych...

LOL

Yn anffodus dwi am fod yn ddoctor! Dwi ddim cweit yn gweld sud fysa TT ar ol 5 mlynedd o ddoctora yn fuddiol iawn!!

Yn ffodus ethics ydi o! Dwim yn meddwl fod angan deud llawar mwy! Does na ddim adolygu i'w neud!!

3:46 PM  

Ychwanegu sylw

<< Adref