Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Y penderfyniad mawr...

Dwi, o'r diwadd, wedi penderfynu ar fy ngweithgareddau yr haf yma! O drwch blewyn...O drwch blewyn...O drwch blewyn, yn ffudugol mae...Taith Dawnswyr Mon i Wlad Pwyl.

Dwi wedi penderfynu fod hi'n bryd i fi roi'r ffidil yn y to, ;o), mae fy nghyfnod ar gwrs haf Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ar ben! Er fod posibilrwydd y galla i neud hi yno flwyddyn nesa, dwi ddim yn ei weld o'n digwydd!! Dwi ddim am fynd yn nostalgic am yr amsar da dwi wedi gael dros y ddau haf dwytha, ond, os cai ond deud, mi oedda nw'n amseroedd da ofnadwy!!

Yr hyn a gynorthwyodd fi i benderfynu oedd fod y gerddorfa yn cael cwrs pasg. Mi fydda i adra o coleg yn y cyfnod hwn, felly fydd na ddim i'n rhwystro i. O ganlyniad i'r cwrs yma, bydd y gerddorfa yn chwarae yn y proms cymreig ar 26ain o Orffennaf, a bydd CD yn cael ei gynhyrchu. Dwi'n edrych mlaen yn barod.

Pwyl dyma fi'n dod!!
Atgofion melys(ish) o dyddia da cwrs 2005...

Cyngerdd yn Llandudno




Y Cellos
Bore da Huw!! Gweithgareddau nosweithiol...!!