Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Yr Wyl Gerdd Dant a Top Cat...

Do'n i ddim yn yr Wyl Gerdd Dant (gwaetha'r modd) ond 'roedd f'annwyl fam! Mi oedd hi'n dawnsio 'Neuadd Middleton' efo Dawnswyr Mon yng nghystadleuaeth Parti Dawnsio Gwerin dros 16 oed...yndi ma Mam dros 16!
Er diddordeb - ar dir Middleton Hall mae Gardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru ac mae'r ddawns yn adlewyrchu'r hyn efo thema blodeuog, i'r rheini welodd y Dawnswyr Mon yn dawnsio dwi'n siwr y bydda chi'n cytuno a hyn!


Wrth gwrs, cyntaf oedd Dawnswyr Mon mi guro nhw Dawnswyr Pantycelyn a Cwmni Dawns Werin Caerdydd. Mi fydd yr arian yn blodeuo ;o) rywfaint ar y cyfri banc a'r darian yn llenwi'r cwpwrdd tlysau ymhellach!! Dyma lun o fy Mam (ar y dde!) efo Anti Mair (y bos!) yn dal y dlws fuddugol a Medwyn (yn y canol) wedi iddy nhw dderbyn eu gwobrau...

Ma hi reit ddoniol bod fi wedi helpu Dawnswyr Caerdydd yn un ymarfer drwy ddawnsio gan nad oedd un o'u dynion nhw gallu bod yno'n marfer. Ar y pryd do'n i ddim yn gwbo fod Dawnswyr Mon yn cystadlu!

Doniol oedd hi hefyd i weld yr Wyl Gerdd Dant ar y teledu pan oedda ni allan yn cael peint neu ddau nos Sadwrn, i ddechra yn Park Vaults (bosibl un o dafarnau mwya dinji Caerdydd!) lle welso ni Mam Carwyn, a Gwawr (fy nghyfneither) ar y teledu efo parti llefaru buddugol Parti Marchan!

Erbyn i ni gyrraedd Dempsey's (pyb Gwyddelig) mi oedd Dad wedi ffonio i ddeud fod Dawnswyr Mon wedi ennill, mi o'n i wedi trio cysylltu efo Mam ond mi oedd ei ffon hi wedi diffodd...fel arfar! 'Roedd yr Wyl Gerdd Dant ar y teledu hefyd yno, ac mi o'n i'n meddwl y bydda ni wedi gadal cyn cystadleuaeth y dawnsio, ond nid fel yna yr oedd! Mi ddaeth y gystadleuaeth ar y sgrin a dangos y parti ddaeth yn drydydd, ag yna yr ail fel oedd Dawnswyr Mon ar fin dod ar y sgrin a newidio nhw'r sianel. Grrr!! Mi o'n i'n flin...mi o'n i ddau eiliad oddi wrth weld fy mam ar y teledu yn ennill! Aaaaaa!!


Dyna sut mae mynd o'r Wyl Gerdd Dant i Top Cat a un Huw blin iawn, iawn, iawn



iawn





iawn!

1 Sylwad:

dywedodd Anonymous Anonimowy...

Ma rhaglen yr Wyl Gerdd Dant ar gal ar safle band llydan S4C:

http://www.s4c.co.uk/bandllydan/c_index.shtml

Felly ma na gyfla i chdi weld Dawnswyr Mon a Grwp Stepio Ysgol Gyfun!

Dwnim am faint fydd fydd o i fyny

1:38 PM  

Ychwanegu sylw

<< Adref