Trenau, tagio, a tyfu barf!!
Dwi wedi bod adra (yn Llangefni!) i orffan fy ngwilia pasg gan i mi ond gael tu 10 dwrnod adra y gwilia dros Pasg...hefyd mi oedd o'n gyfla i adolygu, er nath llawar o hynny ddim digwydd! Braf oedd gweld fod ganddo ni estyniad bach ar flaen y ty erbyn hyn, ac efo nghyfraniad i tra y bum adra, gobeithio y bydda nhw wedi gorffan cyn i fi fynd yn ol am yr haf!!
Mi oedd mynd adra yn golygu fy mod i unwaith eto yn neud y siwrna i'r gogledd ar dren.

Dim cweit dyma beth odd yn fy nisgwl i, ond tren oedd o 'run fath! Dwi wastad yn rhyfeddu ar siwrnea tren! Dim nad ydw i yn eu hoffi nhw, i ddeud y gwir dwi'n reit hoff o deithio ar y tren, ond ma na wbath amdany nhw! Ista yn trio gweithio, hannar cysgu, meddwl a gwrando ar sgyrsia pobl eraill!! Dwi'n siwr fy mod i'n rhoi'r byd yn ei le ddwywaith drosodd ar y siwrna o'r de i'r gogledd, ond erbyn cyrraedd pen y daith ma mhen i llawn cymaint o rwts does na ddim yn aros!
Yn rhyfadd iawn, heb ynb wbod mi o'n i ar yr un tren a Sili, nes i ddim sylweddoli hynny tan oedd hi'n bryd mynd i'r lle chwech. A ninna yn Henffordd doedd na ddim llawar o'r daith ar ol ond mi oedd hi'n neis cael sgwrs fyr efo gwynab cyfarwydd eto.
Tra'r o'n i adra, cefais y fraint a'r anrhydedd o gael fy nhagio gan Wierdo felly dyma fy nghampwaith...
Ar y pryd mi odd gyna i awydd bod yn for-leidr, felly dyna fi y mor-leidr! Dwi am roi her/tagio rywun o Senghennydd i neud llun ohony nhw'u hunan, a Blogel, os ydi hi dal o gwmpas a heb ddim byd gwell i neud, a hefyd beth am i Aled neud! Dyma'r safle i chi gael neud eich hunan-bortread!!
Fel y gwelwch o'r hunan bortread, y mae barf gennyf! Nid ffug mo hyn! Mae gen i farf wedi bod ers pythefnos a hanner, ac yn cyfri. Gan mae barf arholiada ydi o, fydd y barf ddim yn dod oddi ar fy ngwyneb i tan ar ol yr arholiad ola ar Mehefin yr 2ail. Ar ol yr arholiad hwnnw mi fydda hi'n dod nol i fama, eillio, ac unwaith eto ar fy nhaith i Rhuthun i'r 'sdeddfod! Wehei!! Ella y b ydd na lun o'r 'barf' maes o law!!
Dyna ddigon o rwdlan am rwan!X


3 Sylwad:
Dion edrych dim byd fatha ti!! Ond wedi dweud huna, dwi rioed di gweld ti fel mor-leidr (nag chwaith efo barf). Felly pwy dwi i ddeud?
I fod yn hollol onast dwi erioed di gweld fy hun fel mor-leidr chwaith!!
Os ti isho wbath i neud gei di drio neud un iawn ohona fi, er, ma'n lot gwell gyna i fod yn for-leidr!!
Sgen ti'm cleddyf mor fawr a hynny, siwr!
Ychwanegu sylw
<< Adref