Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Haha...

Haha...dynwarediad o OAH neu Owain (Owain Arwel Huws!!) ydi hwna!! Mi dreulies i 5 dwrnod efo'r cradur yn recordio CD efo Cerddorfa Genedlaethol Ieunctid Cymru, Symffoni No. 2 gan Elgar, dwi'n edrych mlaen i gael y CD, dylsa fod yn dda!
Doedd cymysgu efo'r pre-madonna's [;o)] ddim mor ddrwg ag oeddwn i wedi feddwl. Mi gawso ni lot hwyl, digon o aros ar ein traed tan 4yb...dwi ddim yn teimlo rhy flinedig rwan chwaith! Mi fu sawl dynwarediad o Owain ac mi oedda ni'n dawnsio i steil arwain Owain yn Amser (mi oedd pawb yn caru'r gair 'Amser') ar nos Lun a nos Sadwrn! Mae o'n wbath sydd raid ei neud yn gerddorfa!!
Un dyfyniad doniol o'r wthnos...mi oedda ni'n recordio yn neuadd PJ yn Bangor, a rywsut mi oedd dwy golomen wedi llwyddo i ddod mewn. Cyn dechra recordio dyma Owain yn deud: "Right, two thing two watch out for." A dyma dwy golomen yn hefdan dros ei ben o!
Am ddoniol...!!


Dwi chydig yn siomedig fy mod i'n methu'r cwrs yn yr haf ond dyna fo! Mi fydda i'n cael chwara yn y proms cymreig efo nhw felly dydi o ddim yn ddiwedd byd!!

Bellach mae'r gwallt wedi mynd, o fod yn 6cm i tua 2cm (odd mam yn gwrthod dorri o dimn byrrach!!)! Y tro cynta i fi ei dorri o i gyd mewn tua dwy flynedd?! Wbath fel 'na, ma hi'n neis cal gwallt byr!!

Tri traethawd wedi ei neud, un ar ol, am ganolbwyntio ar yr arholiad sgen i dydd Llun! Dylswn i fod wedi genud hynny ers tro!! Nol yn Gaerdydd, wehei!!

1 Sylwad:

dywedodd Blogger Hogyn o Rachub...

Dydi hi ddim yn neis cael gwallt byr. Dwisho ngwallt yn ol.

7:16 PM  

Ychwanegu sylw

<< Adref