"Diolch yn fawr...Keep the change!"
Dydd Sadwrn, bore'r gem, Cymru vs Yr Eidal, fi yn danfon dau ffrind i wled y gem. Ar Queen Street daeth y floedd, "Tickets, anyone need tickets?!"
"How much?" medda fi.
"Face value?!"
"What? 33 pounds. No thank you."
"How much do you want to pay?"
"Fifteen,"
"Tewnty?"
"No, I'm fine thank you," medda fi gan gerdded ffwrdd. Yna, "You can have it for fifteen!"
Dyma fi'n estyn am fy waled ac estyn dau babur deg allan, cymryd y tocyn, rhoi'r arian a dweud, "Diolch yn fawr. Keep the change!!"
Mi ydw i'n un dwl, haglo am bris llai ac yna ei brynu am bris ddudodd y boi. Dwl, dwl, dwl!! Ar y pryd mi o'n i'n hapus fy mod i'n mynd i'r gem, fel plentyn bach wedi ecseitio'n lan!! Pan gerddodd Joe Calzaghe allan ar y cae mi oeddwn i'n teimlo'r wefr o fod yn y stadiwm, ar ol hynny, mi aeth hi lawr allt, achos mi oedd y gem ddois i weld yn warthus. Hollol warthus. I neud petha'n waeth mi oeddwn i'n eistedd yn y gornel lle 'sgoriodd' yr eidalwr dros y ffin gwsg.
Mi oedd hwna'n un o'r gwastraff mwya o ugain punt...gwell lwc tro nesaf am wn i!!


1 Sylwad:
hillerious
Ychwanegu sylw
<< Adref