Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Gwenno Teifi, 19 oed, yn y carchar dros ei hiaith...

Dwi'n teimlo dyletswydd i roi hwn ar fy mlog. Mae'n bwysig fod Cymru gyfan yn dod i wbod am hwn. Un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes diweddar Cymdeithas yr Iaith, ond yn fwy, yn hanes yr iaith Gymraeg.

Carcharu Gwenno am 5 niwrnod

Cafodd Gwenno Teifi, aelod 19 oed o Gymdeithas yr Iaith, ei charcharu am 5 niwrnod heddiw gan Llys Ynadon Caerfyrddin. Mae Gwenno Teifi, o Lanfihangel-ar-arth yn fyfyriwr flwyddyn gyntaf yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth. Cafodd Gwenno ei dedfrydu yn yr union fan (Sgwar Caerfyrddin) lle cyhoeddwyd llwyddiant ei thadcu, Gwynfor Evans, deugain mlynedd ynghynt.

Ym mis Ebrill 2005, fe'i cafwyd yn euog gan Ynadon Hwlffordd o achosi difrod i eiddo Radio Sir Gar yn Arberth a gorchmynwyd iddi dalu costau llys ac iawndal hyd werth £200 ond gwrthododd Gwenno dalu iawndal i'r Orsaf Radio a fu'n destun ymchwiliad gan Ofcom llynedd oherwydd ei diffyg defnydd o'r Gymraeg.

Yn ei datganiad i'r Ynadon dywedodd Gwenno:
"Mae'r Orsaf Radio hon yn dwyn enw'r sir y cefais i fy magu ynddi, ac y mae eu diffyg defnydd o'r Gymraeg yn warthus. Os yw'r Gymraeg i fyw, rhaid iddi fod yng nghanol yr holl ddatblygiadau sy'n berthnasol i bobl ifainc fel radio leol."
"Mae'r hen Ddeddf Iaith yn perthyn i oes a fu. Rhaid wrth Ddeddf Iaith newydd a fydd yn sicrhau lle i'r Gymraeg yn holl gyfryngau a datblygiadau technolegol y ganrif newydd."

Mae mwy o wybodaeth ar safle'r BBC. Da iawn ti Gwenno.
Fel arall diwrnod diflas iawn y bu hi!!