I godi fy nghalon ar ol i Cymru golli ddoe, bum i'n edrych ar hen lunia o'r amseroedd da. Y llunia a gododd fwya ar fy nghalon oedd llunia Sion, neu Tegwared, yn Ffrainc pan gath o splinter yn ei ben ol!!
Mi oedda ni'n dawsnio un noson mewn harbwr bach, ar lwyfan llithrig dros ben...ac felly ar ddiwedd y perfformiad, dyma Teg yn cael y bren wef o drio llithro ar y llwyfan fel sleid. Wrth gwrs, efo pwysa Teg, mi dorrodd un o'r trawstia gan fachu yn ei drowsus gan adael clamp o olwg ar ei ben ol!

Mi oedd o'n sdyc i'r llawr am dros i hannar awr. Holl ddynion y brenin a'r ceffyla hefyd, methu a thynnu Teg yn rhydd! Yn y diwadd mi ddaeth paramedics a gneud yr hyn oedd angen ei neud...ond nid oedd Teg yn holl iach. Mi oedd tamaid o'r llwyfan dal yn styc yno fo!!
Rhuthrwyd o i'r ysbyty, ac ar ol llaw driniaeth fawr, fe ddaeth y splinter allan...

Ma Teg yn lwcus i fod efo ni heddiw ma! Gobeithio na fydd yr un peth yn digwydd iddo fo'n Pwyl!! (Ma'i wynab o'n bictiwr yn un o'r llunia, ond dwi'n meddwl ei fod o'n chydig yn anheg i ddangos hwnnw...er, gofynnwch os yda chi am weld y llun!)
Ma nghalon i wedi codi rywfaint rwan...os na yda ni'n curo'r Alban, digon posibl y bydda i'n suicidal!!


0 Sylwad:
Ychwanegu sylw
<< Adref