Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Gorfoleddaf...!

Dwi wedi cael hyd i fy waled! Mi aeth rywun a hi i swyddfa'r heddlu yn canton! Mi oedd y siwrna o hannar awr werth bob cam i'w chael hi nol!!
Mi oedd rywun wedi ei chodi hi tu-allan i Barfly a'i dychwelyd i'r heddlu, y rheiny wedi ffonio fy nghyfeiriad i, adra, ac yr heddwas yn deud..."He must have been very drunk to lose it outside Barfly!" Wel i ddeud y gwir, medda mam, y tu mewn y collodd o hi, felly nag oeddwn Mr Heddwas, doeddwn i ddim yn feddw, sut allwn i wedi bod a finna heb bres ers tua 9 o'r gloch! Dyy!

Hanes y waled bellach ar ben. Over and out!