Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

#2 Tri o gloch y bora...eto!

Na heb fod allan y tro yma! Y larwm tan ganodd! Grrr...!!
Pa mor rhwystredig ydi hyna, mi oeddwn i yn fy ngwely am amsar call am unwaith, a dwi'n cal fy neffro gan larwm tan!! Mi o'n i'n flin, ac wedyn yn gorfod sefyllian yn yr oerni am 1/4 awr i aros i'r boi i ddod i'w ddiffod...not amused!

Mi gysgish i'n dda wedyn...tan 7:30, amsar codi, placement care of the eldery gyna i...gret! Dwrnod cyfa efo hen bobl!

Mi o'n i wedi cymryd am ryw reswm mae yn Llandochau o'n i fod ar y placement, ond pan decstiodd rywun fi yn gofyn..."Ai ti di'r Huw sy fod yn Royal Glamorgan?" Dyma fi'n dechra poeni! Doedd dau heb gyrradd Llandocha eto, felly o'n i'n meddwl mod i fod yno, ond pan gyrhaeddodd y ddau yna, mi oeddwn i ar ben fy hun braidd! Er hyn i gyd mi ges i aros yno a cal pnawn reit ddifyr yn siarad efo'r hynafwyr ar ol cal bora drybeilig o ddiflas mewn cyfarfod ward!

Dwi'n edrych mlaen yn aruthrol i'r gem ddydd sadwrn. Ma gin i deimlad cryf y bydd Cymru'n ennill. :o) Ma hi am fod yn ddwrnod da beth bynnag ddigwyddith gan ein bod ni allan reit gynnar! Queen Vaults i wylio'r gem dwi'n meddwl, atmossfer da yno ar gyfer gem awstralia. Dwi ond yn gobeithio y byddwn i'n fuddugoliaethus...eto!! ;o)