Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Anturio jysd er-mwyn gwagio...

Dwi newydd fod am gachiad! Ia, am gachiad!!
Doedd ganddo ni ddim bog roll wedi bod yn fflat ni ers ddoe, felly, doeddwn i heb garthu ers yr amser hwnnw. Achosodd hyn i'r carth grynhoi yn fy ngholuddion gan greu pwysedd uchel ar fy ngholuddion. Doedd dim roll yn y bog eto heno, felly yr oedd yn rhaid mynd ar antur. Trepsias draw i adeilad Trefithic lle mae'r cantin ag agorwyd fy ngholuddion...RHYDDHAD! Yn wir...meddyliwch am gwerth deuddydd o garth tu-mewn i chi yn cael ei ollwng!! Dwi erioed wedi teimlo yn well!

Mi gododd hyn fy nghalon ar ol y gem rygbi, Gymgym 5 v Fferyllwyr 20(+). Rwan dwi mewn hwylia da ar gyfer parti Carwyn. Mae o'n hogyn mawr leni!

Neis heddiw oedd gweld Ammeelliiee. Sgyna i ddim syniad sut ma sgwennu eu henw, ond mi oedd ganddi ddwrnod agored yma yng Nghaerdydd a mi nes i ddangos chydig ar y ddinas iddi. Pob hwyl i bawb sy'n gobeithio dod lawr yma yn mis Medi! Mi ga ni hwyl!!

O.N. Dwi dal yn byw yn senghennydd, symud i'r ty newydd mis gorffennaf.