Sesh, Scrubs, a penwsos ym mhorthcawl...
Dwi di cael 4 dwrnod prysur ar y naw felly dyma fy nghofnod ar gyfer y dyddiau hynny...dwn i ddim lle i ddechrau, ond waeth i fi ddechrau yn y dechra ddim!!
Nos Fercher, Mawrth y 1af...mi oedd isho wir sbio 'mhen i am fynd allan ar y noson yma finna efo placement y dwrnod wedyn, ond allan oedd rhaid mynd i ddathlu Dydd Gwyl Dewi, pen-blwydd Teg, a fy nghymreictod. Mi oedd isho sbio ar fy mhen i fwy fyth am i fi fynd allan mewn cilt, ond neud hynny oedd raid hefyd jysd er-mwyn ei neud o...am hwyl!! Mi aetho ni hefyd ar y parade yn ystod y dydd, ond hwnnw ddim wir yn haeddu cael ei reportio, dim ond y llun hwn!Llunia o'r dwrnod hwn i'w cael ar flickr.com.
Dydd Iau, Mawrth yr 2ail...cnoc! cnoc! "Cwyd ma hi'n hwyr," medda Carwyn. Dyma fi'n edrych ar y cloc...8:37, "Aaaaaaa!!" Mi oeddwn i angen bod fyny yn yr Heath erbyn 9:00 (ma hi'n cymryd hannar awr i gyrradd yr Heath!). Dyma fi'n codi, gwisgo trowsus taclus ac estyn crys ar gyfer mynd ar placement gan faglu dros ddillad o'r noson cynt oedd ar y llawr, ac wedyn ail erdych ar y cloc i weld faint o amsar oedd gen i i fynd...do, mi nes i'r camgymeriad o edrych ar y cloc yn frysiog, 7:40 oedd hi! Dyma fi'n stopio gwisgo, a chwerthin, wedyn tynnu nillad a meddwl pa mor ddwl o'n i i feddwl y byddwn i wedi gallu cyrradd mewn pryd, ond hefyd, yn y stad oeddwn i, dal yn drewi o effeithiau'r noson cynt, dwi'n un gwirion!
Mi gyrhaeddis i'r Heath mewn da bryd, i dreulio bora yn sefyllian o gwmpas gan nad oedd un o'r cleifion yn yr adran obstetrics a gynaecology yn fodlon i fyfyriwr meddygol gwrywaidd sefyll yn gwilio nhw yn cael eu arwchilio!
Ma scrubs mor cwl...naci, ddim yn rhaglen deledu, ond y rhai go-iawn!! Yn ystod y pnawn, mi oeddwn i'n gwylio syrgeri gynaecological, ac mi oedd yn rhaid i mi wisgo scrubs, y peth mwyaf cyffyrddus dwi wedi ei wisgo.
Scrubs ydi'r dillad ma surgeons a pawb yn y theater yn ei wisgo pan yn y theatr. Ma gwisgo scrubs fel gwisgo pyjamas...cyffyrddus!! Dwi isho bod yn surgeon dim ond er-mwyn cal gwsigo scrubs drw dydd bob dydd!!Y penwythnos...ia, wel...y penwythnos! Ar benwsos sdeddfod rhyngol mi oeddwn i wedi deud fy mod i'n mynd i wyl ym Mhorthcawl, Cwlwm Celtaidd. Mi oeddwn i wedi disgwyl penswsos bron mor fawr a rhyngol, ond och...y siom! Mi oedd o'n benwsos mor siomedig efo pawb yn flinedig ar ol Werddon wsos cynt a fi oedd yr unig un oedd am barti!
Penwsos da o ddawnsio, ond un siomedig iawn ar gyfer cymdeithasu!
Heddiw...dyma heddiw...

Ni'r meddygon yn mwynhau cinio a pheint bach dawal yn nhafarn yr Allensbank. Dyddia difyr!!


1 Sylwad:
Rhaid rhybuddio fod Aled Morris yn hoyw.
Ychwanegu sylw
<< Adref