Ympryd i gefnogi carcharor...
Ympryd i gefnogi carcharor.
Bydd 27 o fyfyriwr Prifysgol Cymru Aberystwyth a Bangor, yn cynnal ympryd rhwng 9yb heddiw hyd nes i Gwenno Teifi gael ei rhyddhau o'r carchar, er mwyn dangos cefnogaeth iddi a'i safiad dewr dros Ddeddf iaith Newydd, yn dilyn ei charchariad gan Llys Ynadon Caerfyrddin ddoe. Yn ei canol nhw yn rwla ma fy chwaer fawr...isho sbio ar ei phen hi!!
Yn cymryd rhan yn yr ympryd fydd:
Leusa Llewelyn
Sara Davies
Elen Jones
Ceri Phillips
Awel Mai
Branwen Llewellyn
Lowri Mair
Siwan Tomos
Geraint Edwards
Tomos Dafydd
Rhodri ab Owen Thomas
Manon Mai
Lois Elenid
Elin Prysor
Glesni Haf
Anwen Lewis
Medi Williams
Alaw Rowlands
Lowri Evans
Gwenno Mererid
Rhian Dobson
Gwawr Ifan
Iona Hopkins
Elin Humphries
Ffion Humphries
Gwenan Jones
Gwenno Rowlands
Carcharwyd Gwenno Teifi Ffransis gan Lys Ynadon Caerfyrddin am wrthod talu dirwy o £200. Roedd hyn yn dilyn dedfryd gan Lys Ynadon Hwlffordd ym Mis Ebrill 2005 o achosi difrod i eiddo Radio Sir Gar. Gwrthododd Gwenno dalu iawndal i'r Orsaf Radio a fu'n destun ymchwiliad gan Ofcom y llynedd oherwydd ei diffyg defnydd o'r Gymraeg.
Pob hwyl i chi gyd!


0 Sylwad:
Ychwanegu sylw
<< Adref