Boicotio clwb am bythefnos...!
Dwi am foicotio pob clwb am bythefnos.
Ma clybia yn lefydd mor afiach!
1.Mae'r ogla yn afiach. Yno mae ogla cwrw, alcopops, chwys, BO, rhech ayyb, dim jysd yr arogleuon yma arwahan, ond yr arogleuon yma i gyd efo'u gilydd!! Digon i neud rhywun sobobr i gyfogi!
2.Mae'ch traed yn sticio i'r llawr. Os arhoswch mewn un man rhy hir, mi yda chi'n sdyc yna am byth...ia, AM BYTH!!
3.Oes rywun erioed wedi cael y teimlad afiach o gyrradd nol adra a meddwl, "Hmm bydda cawod yn dda!"?? Dwi wedi, a dwi ddim am gael y teimlad yna eto...yn fuan!!
Grrr!! Mae clybia mor A-F-I-A-CH!!
Dwi'n gwbo bod hwna'n safbwynt cryf, ond dwi di cael llond bol ar clybio! Ych-a-fi!! Tafarndai o hyn ymlaen i fi. Fi fydd y boi yn y gornal, y sgryff, y local!! Bellach mae'r fraint o fynd i glwb wedi peidio a bod yn fraint!! Y tro nesaf y bydd clwb yn digwydd ydi pan fydd Biggs yn dod i gem Cymru vs Eidal, a mae'n debyg mae Clwb Ifor fydd o! Os na alla i berswadio Biggs i aros mewn pyb efo fi!!
Dwi wedi meddwl aros yn Callaghans sawl gwaith gan fod bar hwyr yno, ond erioed wedi cwblhau'r dasg honno. Ellith pobl helpu fi plis, dwi isho gwbo am y tafarna sydd ar agor yn hwyr iawn (3 yb) a lle mae awyrgylch reit 'dingy'/hari poteraidd ynddy nw...ac wrth gwrs, tafarn yng Ngaerdydd, o fewn pellter cerdded o Llys Senghennydd, dim mwy na chwarter awr!!


4 Sylwad:
Da iawn ti!
Dwi heb fod i glwb (ag eithrio pan ma gig) ers fy mlwyddyn gyntaf yn coleg
Ten komentarz został usunięty przez administratora bloga.
Sori am ddileu'r neges flaenorol - anghofiais ei wirio ac 'roedd llawn frychau iaith.
Dyma ail gynnig
A wyt wedi trio'r hen arfer Efengylaidd o ddirwest?
Mae dirwest yn dda. Does dim rhaid i ddirwestwr mynychu clwb na thafarn, dim ond mwynhau cwmnïaeth sobr lle bynnag y bo.
Yn ddi-os mae meddwi'n bechod. Ond be di pwynt "yfed cymdeithasol" heb feddwi, sydd yn syniad mor boblogaidd ymysg yr ifanc Cristionogol heddiw?. Pwrpas diod feddwol yw meddi arno wedi'r cwbl - wast braidd yw ei yfed heb dderbyn y dylanwad onide?
Na, heb drio'r hen arfer o ddirwest, ddim yn bwriadu gneud yn fuan chwaith!! ;o)
Y broblam, ydi petawn i ond yn mwynhau cwmniaeth sobr lle bynnag y bo, ar hyn o bryd, bywyd unig iawn fydda gen i.
Na fydda fo ddim yn wastraff, be am y blas! Mae hi'n bosibl yfed heb feddwi, ond hefyd yfed i feddwi! Gwahaniaeth sylfaenol!!
Ychwanegu sylw
<< Adref