Campio...
Campio?! Ia wir, campio!! Wel...cysgu o flaen adeilad y cynulliad dros addysg uwch Gymraeg, efo ryw 30 arall!! Ma hyn bellach bron i wsos yn ol gan i ni ei neud o ar nos Fercher 15fed o Fawrth, tydi amser yn hedfan!!
Mi ddechreuodd yr antur ganol pnawn pan aetho ni lawr i dref i brynu bagiau oren ar gyfer goroesi yn yr oerfel! Mi gawso ni amser digon braf yno yn yfed a chwara'n wirion ac mi gawso ni rywfaint o gwsg wedi ei neud!! Mae mwy o lunia i'w cael yn fama.
Mi benderfynodd pedwar ohono ni gysgu ar draws y fynedfa i'r cynulliad i atal bobl fynd mewn ag allan...
5:48
Gwr diogewlch: "Alright boys, can you move away from the entrance plesae? We have
people coming in at six."
Yr hogia: "(Cwyno cysglyd)!"
5:58
Gwr diogelwch: "Come on boys! The cleaners are here!"
Yr hogia: "Yes! OKAY!" Y pedwar ohonom wedyn yn symud o ffordd...dyda ni'n rai dwl!!
Mi ddaeth mwy i'r brotest fore ddydd mercher gan gadw swn tu-allan ac o amgylch y Cynulliad. Dwi ond yn gobeithio fod y neges wedi cyrraedd adra yn rwla gan i fi gal anwyd dros addysg Gymraeg!!



0 Sylwad:
Ychwanegu sylw
<< Adref