Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Wedi mynd, wedi dod, dwi'n ol!

Do, bum adref, ond bellach dwi'n ol yng Nghaerdydd! Roedd diwedd y tymor dydd Gwener dwytha felly am adra es i gan fod Dad yn y cyffunia beth bynnag. Ar y ffordd adra mi o'n i'n tecstio Radio Cymru yn gofyn am ganeuon gwerin i bobl odd ddim yn bod, e.e. "Dwi di torri nghoes, dwi'n drist. Plis nei di chwara wbath gan Gwerinos i godi nghalon i. Diolch.X sion", wrth gwrs dwi heb dorri nghoes, ond pan da chi'n gyrru sawl un gwahanol ma hi gallu mynd yn ddoniol iawn!!

Dydd sadwrn, 'sdeddfod sir yr Urdd yn Ynys Mon. Mi ddois yn ffudugol yn y gystadleuaeth stepio unigol i fechgyn 15-25ain, felly yn Rhuthun y gwelwch fi'n dawnsio'n gyhoeddus nesaf mae'n debyg. Er fod y ddawns yn ryw fath o blast from the past ma na newidiada wedi ei gneud iddi felly dydi hi ddim cweit 'run dawns ag yr oedd hi!

Ma Caerdydd yn dawal iawn dyddia yma, fi di un o'r unig bobl sydd yn llys senghennydd dyddia yma. Dwi yma fel ffafr i gyd-aelod o gerddorfa ieuenctid Cymru, mae o'n neud cwrs arwain yn Llundain, ac i gael rwyfaint o brofiad arwain mi sefydlodd o gerddorfa ei hun, Cerddorfa Sinfonieta Ieuenctid Caerdydd. Mae'r gerddorfa yma wedi gneud sawl cyngerdd yn barod, ond ma'r cyngerdd nesa yn 'The Gate Centre' yr Hath, Caerdydd, dwi'n meddwl mae am 7:30yh y mae o. Mi fydd o'n gyngerdd da iawn. Mi oedd ganddo ni ymarfer nos Fawrth a ddoe, felly dwrnod rhydd heddiw, dwi am gael rywfaint o waith wedi ei neud...gobeithio!

2 Sylwad:

dywedodd Blogger Hogyn o Rachub...

So chdi glwodd bo fi'n mynd i Minskis!!

Do'n ni ddim.

Methu ti fyd mwah mwah

11:49 AM  
dywedodd Blogger Huw Psych...

Sori os ydw i'n slo, ond dwi ddim yn cael y busnas Minskis?!

Lol!! Wel yn dydi newyddion y trafeilio yn sydyn, bum yn sal, wel, digon posibl fod fi dal yn sal, dwi yn sal ma siwr! Un peth dwi'n hynod conffiwsd!!

Diolch! Gobeithio dos na neb arall wedi ei gael o, ond byddwch yn ofalus rhag ofn.

Huw.XXXXXX

O.N. Ella sa'n well i chi beidio cymryd y swsus na! ;O)

1:59 PM  

Ychwanegu sylw

<< Adref