Braw drosodd...
Dim cymaint o waith a oeddwn i'n ei feddwl, no sweat!!
Ma na hen ddigon o amser mewn bywyd...digon o amser i gystadlu dydd Sadwrn yn sdeddfod sir Mon efo'r ddawns unigol (clocsio) ynghanol yr holl waith! Ma hi am fod yn blast o'r past ma arna i ofn, er mi ga ni weld, ella y rho i chydig o amrywiadau ynddi!! ;o)
Un peth...all rywun ddyfynu'r gystadleuaeth, union eiriad y criteria os gwelwch yn dda...dawns stepio i fechgyn 19-25 dwi'n meddwl ydi o, ond y manylion! Diolch.
Son am glocsia, dwi'n cael par newydd o glocsia! Ma nw fod i gyrradd diwedd Ebrill dwi'n meddwl, tua'r 28ain, felly pen-blwydd hapus hwyr i fi!! Trefor Owen fydd yn gneud y clocsia i fi. Dyma lun ohono fo wrthi, wbath i neud y blog ma edrych chydig neishach!!
Mi o'n i am fynd am glocsia chydig yn flash efo 'stitching' lliw, ond dodd mam ddim yn gadal...wel, hi oedd yn talu!!


0 Sylwad:
Ychwanegu sylw
<< Adref