Gwaith, gwaith, a mwy o waith...
Nos wener a dwi bellach wedi laru ar adolygu. Mae arholiad gen i dydd Llun, ond mi fydd hi'n haws codi'n fora fory i adolygu...gobeithio! Dyma un o'r troeon cynta dwi heb fod allan ar nos wener, dwi ddim yn siwr os ydi hyna'n dda neu drwg. Yn sicr mae o'n dda i'r banc ac i ngwaith, ond i'r ysbryd mi fydda mynd allan wedi bod yn fendith...mae'n debyg fod wastad yfory!!
I gyfiawnhau fy nghwyno am waith dyma fy amserlen o rwan tan ddiwedd pasg...
Arholiadau:
27/03/2006 Musculoskeletal - precis and comprehension
28/03/2006 Health in Society - assessment (formative...dim gwaith i hwn diolch byth!!)
24/04/2006 Human Structure - paper 2 (anatomy - angan gweithio ar gyfer hwn ar ol siom papur 1)
Gwaith cwrs:
26/04/2006 Health in Society - sociology essay (aw...hwn efo lot o waith i'w neud)
28/04/2006 Homeostasis - essay (wbath am glycolysis yn yr iau...diddorol iawn ar gyfer ymprydio!)
03/05/2006 Human Structure - manual (dwi di bod fod i neud hwn ar y cyd efo'r dissectio...chydig o waith i'w orffan! ;o))
12/05/2006 Student selected component - essay (f'un i ydi llysiau fel moddion efo Ifor Delme Bowen...hwn bellach ar y gweill, ma saffrwm yn ddefnyddiol medda nhw!)
Wedi sgwennu nhw allan fel na ma nhw'n edrych yn dipyn o waith, ond wedi meddwl am y peth ma na rywfaint ar y gweill gen i ar gyfer bob un, felly bawd i fyny, dwi'n teimlo'n well wan!! :o)
Plis peidied neb a deud bo fi'n wastio amsar yn sgwennu hyn i gyd, achos dwi'n meddwl fod o'n adeiladol iawn!!
Hwyl.


0 Sylwad:
Ychwanegu sylw
<< Adref