Pwy sy'n ddrwg...?!

Bu farw ar
29/04/2006
"Golchi fy ngwallt. Blwyddyn arall wedi dod a mynd.
Nes i ddim hyd yn oed neud ffrind!
Pissed off da'r ferch, fi'n Pissed off da'r serch!
Fi yw'r gorau yn chwarae gitâr ma Mam yn gweud bo fi'n Superstar.
Ddim yn deall pam dyw y merched yn fy hoffi i.
Fi yw'r gore rili, pam does neb yn sylwi? "
Gorffwys yn Dawel

Neithiwr oedd gig olaf Java, ennillwyr cystadleuaeth brwydr bandiau C2 a mentrau iaith Cymru 2004, efo tua 70 gig, E.P. "Jwngwl Java", a fan-base i'w henw.
Diolch i'r tri canlynol am neud y daith efo Java yn un werth chweil...
Rhodri Daniel
Rhodri Lewis
Ifan Java
Ac hefyd i...

Cynan
Ar ddiwedd set Java, mi oedd hi'n lanast llwyr ar y llwyfan gyda aelodau'r band yn cael eu cyfarch yn y gan olaf gan ddawnswyr proffesiynol hanner noeth, ac yna'n cael eu cario ffwrdd yn y dyrfa.
Dyma oedd y diwedd...

Uchafbwynt y gig oedd y Genod Droog, ac uchafbwynt yr oeddent...ar ol y sioc syfrdanol ar ddechrau'r set pan oedd llawr uchaf Clwb Ifor yn gweiddi "Java! Java! Java!"! Rhwng y chant "Pwy sy'n ddrwg...genod, genod droog!" cafwyd ambell i gri o "Pwy sy'n dda...Java, Java, Java!!" ond buan daeth hyn i ben efo un o fandiau mwya cyffrous y sin roc Gynraeg yn rocio a hip-hopio!

Mi oedd hwn yn un o'r gigia i fi ei fwynhau fwyaf, o Java a'r anhrefn ar ddiwedd eu set i'r anhygoel Genod Droog. Am fwy o Genod droog gweler bandit247.com...daliwch funud dydy nhw ddim yna, felly linc yma!


0 Sylwad:
Ychwanegu sylw
<< Adref