Hawddamor...
Diwrnod rhoi'r traethawd olaf i fewn...mi fydd o wedi ei orffan erbyn 4pm nes mlaen heddiw!!
24/04/2006
Mae hon wedi bod yn wythnos braf, er yr holl waith! Ar ol yr arholiad dydd Llun ni feddygon, cawsom ddawns, aka Ball!, bu i ni wisgo'n posh dim ond i ddod yn ol adra efo'n tei bo wedi ddad glymu a make-up yn bob man, ond mi gawso ni hwyl! I grynhoi'r noson dyma chydig o lunia...

Yn y coal exchange yn Bae Caerdydd, ac yn ein doethineb bu i Aled, Gareth a myfi gerdded nol! Aeth y daith a ni drwy Bute, heibio Lloyd George, Neuadd Dewi Sant, Aneurin, a Wetherspoons Central, cyn i bawb landio nol yn stafall Pritch! Mae arna i ymddiheuriad i Pritch am ei styrbio fo, mi oedda ni feddygon yn clownio o gwmpas yn ei stafall o ar ol i ni ddod nol...am hwyl!!
25/04/2006
Dydd fy mhen-blwydd...diolch yn fawr i bawb a gofiodd anfon ataf mewn ryw ffordd, y lleill ohona chi peidiwch a disgwl cardyn dolig!! ;o)
Ymddiheuriad arall i Pritch yn famaam i chdi gael dy ddeffro (ar sawl achlysur!), fo oedd yr un a gafodd alwad ffon gan Glesni i godi Carwyn a fi i fynd i'n darlithoedd. Felly mynd aeth y tri ohonoa ni yr holl ffordd fyny i'r Heath i ddarlithfa hanner gwag. Dwi'n siwr nad oedd y tri ohona ni'n sobr, ond ar ol yfed o saith tan ddau, yna dim ond dwy awr o gwsg...pwy fydda?! Mi oedd y darlithoedd i gyd i weld yn jolly iawn, ella mae fi oedd o, ond mi oedd hi'n ben-blwydd arna i!
Cafwyd dathliad 'bach' gyda'r nos!! Ma ogla'r alcohol dal i'w glywed yn y gegin!! A i ddim i ymhelaethu, ond dyma lun o'r noson, efo'r gwallt 'new-look'!

Mi oedd pawb oedd yno yn gwbo hanes y noson yn iawn, ond yn fras i bawb arall mi gawso ni 'punch' yn ein fflat am tua 7, tebyg i hwn, ond fod yna tua 60 litr ohono fo!
Mi oedd y 'punch' wedi dod i ben erbyn 11, ac yna y buo ni'n morio canu y tu-allan i'r fflat am ryw chydig cyn hel ein traed am Llwya'r tywydd. Yno bu i ni ddiota pellach ac yna mynd ymlaen i'r clwb nos Hylif, yno y gorffenwyd y noson. I rai ohono chi fydd hwna yn golygu chydig mwy!! ;o)
26/04/2006
Yn lle bod yn ddoeth a dechra'r traethawd, dyma godi am 10:30 (y byd yn troi ryw fymryn!), cychwyn am y gawod stopio i siarad efo Ifan ar y ffordd (yr unig synnwyr o'n i'n gael oedd "Mhm, mmm! Aaaaw!!" wrth iddo fo rowlio'i ben!!), mynd yn ol am y gawod a dod ar draws Carwyn, wedyn mynd nol i stafell Ifan a gorffan gwylio Captain Corelli's Mandollin, gan i Ifan ddechra gwylio hi'r noson cynt. Yna oedda ni tan chwartar i dri, wedi gwylio tair ffilm. Ar ol mynd a gwaith fewn daetho ni'n ol a gwylio ffilm arall, cael swper ac yna mynd i'r sinema! Felly bum i wylio pump ffilm mewn diwrnod, dwi'n siwr i Ifan weld chwech!! Y ffilmia i ni wylio oedd:
Captain Corelli's Mandollin
Shrek 1
Old School
Shrek 2
Silent Hill (go-lew oedd hi, mi yda chi angan dallt fod na parallel universe yn bodoli i'w gweld hi...mwy wierd na scary, ond mi oedd hi werth mynd i weld y trailers, dyna ydw i'n alw'n scary!!)
27/04/2006
Diwrnod cyfan o neud traethawd a allwn i fod wedi ei orffan ers dros dair wthnos...mae o dal i fynd mlaen a hitha bellach yn 28/04/2006! Er, y ciando amdani rwan...di cael digon ar y bali thing!! Nos da.X


0 Sylwad:
Ychwanegu sylw
<< Adref