Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Blwyddyn yn dod at ei therfyn...

Mae amser yn hedfan! Di hi ond yn teimlo fel ddoe pan gerddis i drw ddrws y fflat ma a sylweddoli ma fama oedd 'adra' am fod am flwyddyn. Bellach mae'r flwyddyn (wel tua 8 mis?!) yn dod at ei therfyn.

Y ddarlith olaf - dydd Mawrth, Mai 2ail. Pan o'n i'n cerdded nol i fama, mi o'n i'n teimlo'n rhyfadd, alla i mo'i egluro fo...rhyfadd ydi'r eglurhad gora!!
Byth ers y ddarlith ola, yr unig waith sydd di bod yn cael ei neud ydi chydig o betha sydd heb eu gorffan...draethoda/gwaith cwrs/projecta, ma nw dal heb eu gorffan ond dyna fo, mae'n debyg ma dyna dwi'n gael am wylio'r tri Matrix dair noson yn olynol!! Cyn i chi feddwl, na natho ni ddim gwylio nhw ar y teledu chwaith, ar DVD odda ni'n eu gwylio nw am ryw reswm...yr un pryd ag yr oedda nhw mlaen ar y teledu!

Y placement olaf - Casnewydd, A&E. Digon distaw!! Dim ond un peth i'w adrodd arno...daeth na fachgen 14 i fewn ar ol iddo ddadleoli ei ffer. Gan fod ei droed o wedi symud cymaint, mi oedd yna asgwrn yn atal llif y gwaed i'r croen ar ben ei droed felly roedd yn rhaid rhoi'r droed nol yn ei lle cyn gynted ac yn bosibl. I neud hyn rhaid oedd tynnu'r droed o'i lle a'i rhoi yn y lle iawn!! Fel y gallw chi feddwl ma hyn yn boenus, felly mi oedd gofyn am ddefnydd morphin a gas&air (nitrous oxide).
Mi gafodd y credaur chwistrelliad o morphin, yna dyma fo'n sugno ar y nwy...ei ymateb cynta oedd, "I can't take more of that, it make's me dizzy!" Dyna oedd ei bwynt o, ond perswadiwyd o i gymryd mwy. Wrth i'r consyltant ddechra cyffwrdd ei droed gwaeddodd y bachgen, "Aaa!! Give me more morphine!!" Felly, gan ei fod o'n ddoctor clen mi gath o rywfaint mwy, ar yr amod ei fod o'n sugno'r aer!!
Erbyn i'r morphine a'r nwy daro'r bachgen mi oedd o'n siarad fel petae o di cael gin&tonic! Dyma'r doctor yn gweld ei gyfle a tynnu'r droed tra 'roedd nyrsys yn cysuro'r bachgen. Mi oedd na sgrechian a gwingo a llef am fwy o morphin, ond cyn hir a hwyr "POP!!" mi oedd ei droed o nol yn ei lle, wel, dipyn nes nag oedd hi cynt! Mi gafodd o blastar ar ei droed i'w chadw yn ei lle ac yna aros i gael X-ray. Ma'n debyg ei fod o wedi cael triniaeth y noson honno i roi'r bob dim yn iawn!! Mi chwysis i gymaint wrth i hyn ddigwydd...h.y. gan ei bod hi'n boeth!!
Mi aetho ni i premiere Mission Impossible III y noson hon, mwy o'r un fath...ond mi odd o'n dda!!

Heddiw - Y sesiwn olaf, 'pharmacology practicle'. Mi ges i cocaine...yn fy llygad!! Profi effeithia gwahanol gemega ar y llygad reit ddiflas wir, ond mi oedd y teimlad rhyfadd yno eto ar ol sylweddoli fod bob dim drosodd, mae o fyny i fi rwan i neud o gyfri!!
Mi fydda llun i ddisgrifio'r cyfan yn dda felly dyma fo, llun i ddisgrifio'r flwyddyn dwim yn siwr iawn be di'r neges tu ol iddo fo ond ma na ddigon o hwyl i gael...


Slochian rym tan oria man rwan i helpu'r gwaith gael ei amsugno i'r ymenydd!!

2 Sylwad:

dywedodd Blogger Hogyn o Rachub...

Ti'n rhy sofft. Mae gen ti bedair mlynedd arall i fynd. Blwyddyn yma ydi dechrau diwedd fy mywyd i. Bleeeh.

10:00 AM  
dywedodd Blogger Huw Psych...

Yyyymmm...ti'n Gwent?! O diar, taswn i'n cofio!

7:01 PM  

Ychwanegu sylw

<< Adref