Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Ma hi'n rhyfal 'ma!

Ma hi'n ryfal arna ni...ma merched fflat F wedi datgan rhyfel!

Ar ol i ni ddod yn fuddugol mewn ffeit ddwr yn ystod oria man y bora ma, mi ddatganwyd rhyfal yn ein herbyn. Daeth dwy i geisio amharu ar yr heddwch yn ein fflat, ond ar ol eu glychu nw'n socian a'u plastro efo shaving foam bu'n rhaid iddy nhw gilio. Mi lwyddo nhw i adal gryn dipyn o lanast yn fama efo'r gegin dan ddwr!

Mi oedda ni hefyd yn fuddugol yn erbyn hogia G yn gynharach hefyd, wrth i ni lwyddo i lychu nhw at y croen. Mi oedda nhw ddigon parod i roi'r ffidil yn y to, ond nid y merched! Mi fydd na le yma dros y dyddia nesa, ond mi yda ni'n barod...



Fydd na ddim B4 lovin iddy nhw nes ma'r anghydfod drosodd!!