Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Sensoriaeth...

Pan o'n i adra dois i ar draws ambell i berson sydd wedi dod ar draws fy-mlog, a mi ddechreuis i feddwl be os dwi di bod yn deud petha go fawr!

Dwi ddim yn meddwl fy mod i, ond am neud i fi boeni, ma'r un a agorodd fy llygaid am gael ei henwi! Dwynwen Berry, yr annwyl, a ddywedodd wrtha i ei bod hi wedi bod ar fy mlog. Rhag ofn eich bod chi'n meddwl pwy ydi'r annwyl Dwynwen Berry, wel dyma hi i chi...


Ma Dwynwen yn dawnsio efo Dawnswyr Mon a dydi hi ddim yn ddynas i'w chroesi felly os y gwelwch chi hi, a da chi byddwch yn ofalus o'r hyn yr yda chi'n ei neud/ddeud! Ar wahan i hynny ma hi'n iawn, jysd fy mod i wedi ei phryfocio ambell waith yn ormod...synnwn i ddim nad ydi hyn yn gwthio'r ffinia braidd hefyd!!

Rhag ofn fod rhai ohona chi'n meddwl sut y daeth hi ar draws fy mlog, wel hi ydi golygydd y cylchgrawn Dawns, cylchgrawn Cymdeithas Dawns Werin Cymru a mi'r oedd hi'n edrych am ddeunydd. Rywsut mi ddaeth hi yma...felly croeso mawr i Dwynwen a croeso mawr i bawb sy'n darllan hyn!

Ddudodd Dwynwen ddim llawar o'm byd, ond mi nath o i fi feddwl os oedd hi werth sensro rhai o'r petha oedd yn dod o ngweflau...ond peidier a phoeni does na ddim newid am fod!! Ma'r blog yma am fod yn llawn o'r rwts arferol, yn syth o fy ngenau...fel y dywedodd Aled rhyw dro: "Ti'n siarad cymaint o gachu ma dy din di'n jealous!!"