Aha!!
Aha! Os yda chi'n cofio, fydda i ddim yn cystadlu ar y ddawns unigol i fechgyn yn Eisteddfod yr Urdd 'leni achos ma gyna i arholiad ar y dwrnod hwnnw, er os bydda ffordd petawn i'n gallu bod yn Rhuthun am 8yb, ac am 11yb a bod nol lawr yng Nghaerdydd erbyn 1yh mi fyddwn i'n gneud!
Yr unig beth ydi, dwi wedi sylweddoli y galla i jysd peidio mynd i'r arholiad yn gyfan gwbwl, h.y. methu'r arholiad! Wrth gwrs bydda rhaid ei ail-sefyll o, ond ydi o werth o i ddawnsio yn sdeddfod yr Urdd...un o unig gystadleutha dawnsio gwerin mewn blwyddyn?
Y broblam ydi synnwn i na fydd gyna i bapur neu ddau i ail-sefyll ym mis Awst beth bynag, felly am rwan mae'n debyg mae gneud yr arholiad y bydda i wsos nesa, i o leia drio pasio un arholiad.
Nol a finna i weithio rwan i weld os y ga i well hwyl fory a drennydd, odd yr arholiad ddoe ddim yn rhy dda! :o/


0 Sylwad:
Ychwanegu sylw
<< Adref