Myfyrdod...
Arholiad am 16:30 fory (wel, heddiw bellach!), ac yma yr wyf yn myfyrio unwaith eto!
Dwi wedi sylweddoli erioed nad noson cyn yr arholiad ydi'r amsar i adolygu, noson gynnar yn y gwely y dylsa hi fod; ond rywsut dwi di landio fy hun ar fy nhraed yn weddol hwyr. Newydd fod yn trafod yda ni, yn frwd...wel, dadla i fod yn hollol onast! Mi fydda hi wedi bod yn ddadl rywfaint gwell petawn i wedi bod yn son am yr un peth a pawb arall, ac hefyd wedi darllan y label ar echelin (axis) y graff, ond dyna ni mi nath hi ddadl ddiddorol iawn!
Pan ddaeth pawb i gytuno, (cytunodd pawb mod i'n siarad rwts!) yr hyn gytuno ni oedd fod o ddim yn gneud synnwyr...ia, dadla am wbath sydd hyd yn oed ddim yn neud synnwyr!! All ddim un ohona ni gael ei penna dwl o'i amgylch, yr unig beth allw ni ei neud ydi ei dderbyn o fel ac y mae o, synnwyr neu beidio!
Y broblam ydi, i'r rhai ohona chi sy'n dallt acid-base balance yn y corff; mi yda ni wedi cael ein dysgu fod cynydd yn [H+] neu ostyngiad mewn [HCO3-] yn achosi lleihad mewn pH (mwy asidig), a fod cynydd mewn [HCO3-] neu ostyngiad mewn [H+] yn arwain at gynydd yn y pH (alcali).
Dyma lle ma hi'n mynd yn gymhleth...ma respiratory acidosis, fel awgrymir, yn achosi lleihad mewn pH (mwy asidig), ond hyn efo cynydd mewn [HCO3-]. Y ffordd y mae'r corff yn cywiro hyn ydi drwy gynydd pellach mewn [HCO3-].
Respiratory alkalosis, ar y llaw arall, yn ostyngiad mewn pH, ond efo gostyngiad yn [HCO3-], a'r corff yn cywiro hyn drwy ostwng [HCO3-] yn yr arennau.
Mae'r hyn sydd yn y paragraff uchod yn croes ddeud yn llwyr y rheola acid-base a elgurwyd ynghynt!! Does ryfadd mod i wedi drysu...yr unig ffordd dwi am ddysgu hyn ydi ei fod o yn groes i synnwyr / ddim yn neud sense! Dwi ond yn gobeithio y daw cwestiwn ar hwna yn yr arholiad fory i fi gael dangos iddy nhw sut dylsa'r corff fod yn gweithio!
Ymddiheuriada am eich drysu ond bellach, mae'r diffyg synnwyr yn neud synnwyr i fi!
O.N. Dwi'n gobeithio peidio'ch poenydio efo gwaith eto...byth eto...byth, byth, byth, byth, byth eto!!


2 Sylwad:
booooooooooooooooooring
x
Ychwanegu sylw
<< Adref