Chwarae yn y glaw!
Haf...nacdi!! Glaw...yndi!! Siorts a glaw...syniad drwg!!
Syniad drwg iawn, yn enwedig pan da chi ar post exam high ac yn cerddad yn ol efo hogia plentynaidd a tair merch efo ymbarel...ond dyna ddigwyddodd! Mi oedd hi'n pisso bwrw, ninna'n gorfod cerddad nol yn y glaw, ac Aled a minna yn ein siorts!

Y genod ddechreuodd yr holl beth gan daflu glaw oddi ar eu ymbarels arno ni, wedyn mi oedda ni gorfod talu'n ol!! Mi gawso ni nw'n ol wrth neidio mewn i ambell bwll go fawr o ddwr, y broblam oedd ein bod ni'n glychu ni'n hunan yn y broses!
Yn y diwedd mi odda ni mor wlyb mi oedda ni'n neidio i bob pwll odda ni'n dod ar ei draws!! Does na ddim prinder pyllau yng Nghaerdydd coeliwch fi; mi o'n i'n socian erbyn cyrradd nol...dwi'n lwcus na ges i annwyd!! Dwi ddim yn cofio'r tro dwytha i fi chwara yn y glaw cyn hynny, ond mi odd hi'n braf cael bod nol yn blentyn am ryw awran!!


0 Sylwad:
Ychwanegu sylw
<< Adref