Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Mynd am jog...

Am y tro cynta ers tro byd dwi wedi codi yr ochr iawn i hannar dydd...7:30 i ddeud y gwir. Neithiwr mi natho ni addewid i fyna am jog, mi o'n wedi gosod dau larwm ar gyfer bora ma,
felly mynd oedd rhaid. O gwmpas parcia Caerdydd aehtho ni, y lle mawr gwyrdd ar y map! Ma rhaid i fi ddeud i fi fwynhau ond dwi ddim yn siwr pam aetho ni mor gynnar!



Ma hi mor braf bod ar wilia...dim poen yn y byd, ond does na neb arall wedi deffro eto...felly nol i ngwely amdani!